Cyfeirnod:
Mr Nick Ramsay AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA 1 Rhagfyr, 2017
Annwyl Nick
RHAGLEN I SICRHAU ADDYSG AC YSGOLION AR GYFER YR 21AIN GANRIF: Y DIWEDDARAF AM YR ARGYMHELLION
Yn dilyn y cyhoeddiad gwerth am arian gan Swyddfa Archwilio Cymru eleni, ynglŷn â’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, rwy’n falch o roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â phob un o'r argymhellion a oedd yn yr adroddiad hwnnw.
Yn gryno, mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen mewn perthynas â phob un o'r deg argymhelliad, mae un cam gweithredu wedi cael ei gwblhau eisoes ac mae un arall ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae adroddiad mwy manwl yn cael ei ddarparu ar gyfer y Pwyllgor yn Atodiad A o'r llythyr hwn.
Fe wnaethoch chi hefyd ofyn am ddiweddariad penodol am y cynlluniau sydd angen eu datblygu ar gyfer ton nesaf y Rhaglen (sef Band B). Rwy’n hapus i adrodd bod ein partneriaid mewn Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach wedi cyflwyno Rhaglenni Amlinellol Strategol, i amlinellu eu cynlluniau arfaethedig ar gyfer Band B ac y bydd y prosiectau hyn yn dechrau yn 2019. Os oes capasiti yn ein cyllidebau, byddwn ni'n ceisio dechrau ar y prosiectau’n gynt.
Mae’r holl gynigion Band B wedi cael eu hasesu o gymharu ag Amcanion Buddsoddi'r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, ynghyd â mentrau polisi Llywodraeth Cymru yn ehangach hefyd. Cafodd yr holl gynlluniau eu cymeradwyo "mewn egwyddor", ac roedd y prosiectau’n agored i graffu pellach drwy ein proses Achosion Busnes.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Ddatganiad Ysgrifenedig ar 10 Tachwedd, sy’n darparu ymrwymiad y Llywodraeth hon i’r cynlluniau. Fel gyda’r don gyntaf, sef Band A, bydd Llythyrau Ffurfiol yn cael eu cyhoeddi i gadarnhau Amlenni Cyllido'r Rhaglen. Bydd y cadarnhad hwn yn galluogi pob Awdurdod Lleol a Sefydliad Addysg Bellach i fynd ymlaen i gynllunio i gyflawni eu prosiectau gyda’r lefel gywir o sicrwydd o’r cymorth sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru yn y cam hwn.
Er mwyn i ni allu darparu’r lefel gywir o gyllid o gymharu â’r angen am fuddsoddiad sydd gan ein partner, a chyflymder y gwaith cyflenwi, mae’r llythyrau hefyd yn cynnwys cais am wybodaeth am yr amserlenni arfaethedig ar gyfer cyflawni'r prosiect. Bydd angen i ni baru'r angen hwn gyda'r gyllideb sydd ar gael; defnyddiwyd dull llwyddiannus drwy gydol Rhaglen Band A.
A’r Rhaglenni Amlinellol Strategol yn eu lle, rydyn ni nawr yn gallu bwrw ymlaen â’r gwaith paratoi a fydd yn galluogi'r Rhaglen Band B i ddechrau yn 2019. Mae’r gwaith yn cynnwys cwblhau'r argymhellion sydd yn weddill o’r rhai a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru yn eu hadroddiad ym mis Mai.
Yn gywir
Steve Davies
Cyfarwyddwr Addysg / Director of Education
cc Blwch negeseuon e-bost y Cabinet a’r Cyfarfod Llawn
Blwch negeseuon e-bost CGU Llywodraeth Cymru
Atodiad A
Argymhelliad Un
Yn gyffredinol, ein barn yw bod y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio a chymeradwyo prosiectau’n gadarn. Er hynny, cawsom nad oedd y cyngor terfynol a roddwyd i Weinidogion, i fod yn sail i’w penderfyniadau ar ariannu, yn adlewyrchu’n ddigonol y risgiau a phryderon a oedd yn parhau yng nghyswllt y prosiectau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei dull wedyn, ond mae modd mynd ymhellach. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod briffiadau i'r Gweinidog, y mae penderfyniadau cyllido yn seiliedig arnynt, yn nodi'r camau a gymerir i ymateb i unrhyw bryderon neu amodau a nodir gan y Panel Buddsoddi Cyfalaf.
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Wedi’i gwblhau
Cymerwyd camau yn union ar ôl yr archwiliad. Cryfhawyd y broses o ddatrys ymholiadau sy'n deillio o’n hasesiad o Achosion Busnes, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cofnodi pob ymateb gan ein haseswyr. Os oes angen ystyried risgiau, tynnir sylw at y rhain yn yr hyn a roddir i Ysgrifennydd y Cabinet.
Argymhelliad Dau
Wrth fynd ymlaen, mae’n debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud rhai newidiadau sylweddol yn y ffordd o ariannu a rheoli’r rhaglen. Bydd angen i Lywodraeth Cymru gwblhau’r trefniadau llywodraethu wedi’u diweddaru ar gyfer Band B y rhaglen sy’n rhoi sylw priodol i’r canlynol:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Mawrth 2019
Mae gan y Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif drefniadau llywodraethu cadarn, sy’n ystyried y ffrydiau cyllido cyfalaf a refeniw. Mae trefniadau ar gael i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu Rhaglen Band B, ynghyd â sefydlu Panel Band B sy’n cynnwys uwch swyddogion o Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae Panel Band B yn cwrdd bob mis ac mae’n monitro risgiau, datblygiad y Rhaglen a chynnydd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn unigryw i Gymru, a chafodd ei ddatblygu drwy ystyried yr hyn a ddysgwyd gan yr Alban, Lloegr ac Iwerddon. Mae’r swyddogion yn parhau i siarad yn rheolaidd â’r Adran Addysg, Scottish Futures Trust ac EPEC (Canolfan Arbenigedd Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat Ewrop).
Mae’r cyllid ar gyfer yr elfen Gyfalaf o Raglen Band B yn parhau’n 50% gan Lywodraeth Cymru a 50% gan ein partneriaid. Mae’r cyllid ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn 75% gan Lywodraeth Cymru a 25% gan ein partneriaid.
Argymhelliad Tri
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â chynghorau a cholegau addysg bellach ynghylch cyllid Band B ac, yn benodol, a oes dyhead i gymryd rhan yn y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Gan gydnabod y gwaith hwn, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer ariannu Band B y rhaglen cyn gynted â phosib, gan ystyried y canlynol:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Rhagfyr 2017
Cafodd dogfennau’r Rhaglen Amlinellol Strategol eu cyflwyno ym mis Gorffennaf 2017, lle gofynnwyd i’r partneriaid nodi cynlluniau eu prosiectau ac a oeddent yn dymuno hyrwyddo unrhyw brosiectau drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Roedd y cynlluniau hyn yn awgrymu rhyw £2.3 biliwn o alw am fuddsoddiad, gan gynnwys mwy na £600 miliwn o fuddsoddiad dynodol drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Mae’r cynlluniau mewn pum adran, sy’n nodi alinio strategol; gwerth am arian; fforddiadwyedd gan gynnwys y gallu i ddarparu arian cyfatebol; materion masnachol; a chyflawni ar gyfer pob Awdurdod Lleol (gan gynnwys ysgolion eglwysig) neu Sefydliad Addysg Bellach.
Gan fod pob prosiect yn cael ei gefnogi gan Achosion Busnes, mae pob prosiect yn y Rhaglen yn cael rhagor o graffu o ran gallu ein partner i ddarparu arian cyfatebol, ac mae hynny’n cael ei fonitro drwy’r prosiect a’r gwaith o gyflawni'r Rhaglen.
Argymhelliad Pedwar
Mae’r arolwg cenedlaethol o gyflwr yr ystad addysg yn 2010 wedi helpu i roi gwybodaeth llinell sylfaen glir am ei chyflwr a’i haddasrwydd, er mai prin yw’r adroddiadau cyhoeddus a gafwyd ar y data neu ar gynnydd y rhaglen yn genedlaethol. Ers hynny, mae cynghorau wedi diweddaru eu data yn flynyddol. Cynhaliwyd arolwg o sampl hefyd yn 2016 i asesu cysondeb y data. O ystyried y gyfran o ysgolion y barnwyd eu bod yn y dosbarth anghywir, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn:
Ymateb: a) b) d) Derbyn, c) Derbyn mewn Egwyddor
Dyddiad Cwblhau: Awst 2018
a) Cynhaliwyd ein harolwg blynyddol o gyflwr, a hynny ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru. Roedd y ddogfen yn cynnwys canllawiau i alluogi partneriaid i ddyblygu'r dull a ddefnyddiwyd yn ein harolwg enghreifftiol er mwyn sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddilyn.
b) Rhaid i’n partneriaid cyflenwi ddefnyddio’r canllawiau diwygiedig i ddiweddaru eu hasesiadau o'r ystad, a gofynnwyd iddynt eu mabwysiadu ar unwaith os oes modd, gyda’r bwriad o wneud hyn yn ddull gorfodol erbyn adeg casglu'r data y flwyddyn nesaf.
c) Daeth y data i law, ac mae’r swyddogion yn dadansoddi'r adroddiad. Ystyrir rhagor o gamau gweithredu ar ôl cwblhau'r ymarferiad, gan gynnwys a oes angen arolwg enghreifftiol arall er mwyn profi'r data.
d) Er mwyn bod yn fwy tryloyw wrth adrodd, gwneir gwaith i ddiweddaru Gwefan Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn adrodd ynghylch cynnydd y Rhaglen mewn perthynas â gwella’r ystad ysgolion a manteision y Rhaglen yn ehangach. Rydyn ni wedi diweddaru'r wefan i adlewyrchu’r cyhoeddiad diweddar am FandB, ac rydyn ni wrthi’n trefnu i ddiweddaru'r adran ar lywodraethu'r Rhaglen er mwyn rhoi eglurder i’n partneriaid cyflenwi. Rydyn ni’n casglu gwybodaeth ar gyfer y prosiectau sydd wedi cael eu cymeradwyo a’u cwblhau dan gyllid Band A. Ar ôl cwblhau hynny, bydd hyn yn cael ei chyhoeddi’n ddaearyddol ar y wefan er mwyn dangos y buddsoddiad ledled Cymru.
Mae ein canllawiau cyhoeddusrwydd newydd ar gael ar-lein ar hyn o bryd. Mae'r adrannau ar fanteision cymunedol, caffael a safonau adeiladu wrthi’n cael eu hadolygu hefyd. Cyhoeddir gwybodaeth newydd ar y wefan yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Rydyn ni’n casglu gwybodaeth a gwblhawyd yn ddiweddar ar brosiectau, gan gynnwys ffotograffau o adeiladau er mwyn ehangu’r adran ar bortffolio prosiectau ar-lein.
Argymhelliad Pump
Mae’r rhaglen wedi rhoi blaenoriaeth i leihau nifer y lleoedd gwag, ac wedi bod yn un o nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at leihau nifer y lleoedd gwag. Ond, mae nifer y lleoedd gwag yn parhau’n uwch na’r targed yn y rhan fwyaf o gynghorau, yn enwedig lleoedd mewn ysgolion uwchradd. Ar gyfer Band B, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o flaenoriaeth i gyflwr adeiladau na lleoedd gwag. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gydweithio â chynghorau:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Ebrill 2019
a) Dyma nodau’r Rhaglen Band B:
a. Gostwng nifer yr ysgolion a'r colegau sydd mewn cyflwr gwael:
b. Sicrhau bod gennym y nifer gywir o ysgolion a cholegau, a hynny yn y lleoliad cywir sy’n:
i. Darparu digon o leoedd i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg; a
ii. Sicrhau bod yr ystad addysgol yn cael ei defnyddio’n effeithiol ac effeithlon.
Mae sicrhau bod gennym ysgolion a cholegau o'r maint cywir yn caniatáu i’n partneriaid allu hyrwyddo prosiectau sy’n mynd i’r afael â phrinder a gormod o leoedd er mwyn sicrhau bod modd adlewyrchu anghenion lleol. Rydyn ni'n ymgysylltu’n rheolaidd â’r awdurdodau lleol sy’n wynebu pwysau am leoedd er mwyn deall yr angen am fuddsoddiad. Mae swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, sy’n delio â darparu lleoedd mewn ysgolion, yn asesu achosion busnes ar gyfer buddsoddi ac yn sicrhau bod y broses hon yn mynd i'r afael â lleoedd gwag.
Mae cynigion Rhaglen Band B yn cynnwys prosiectau sy’n mynd i’r afael â chapasiti dros ben a digon o leoedd, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gefnogi'r cynigion hyn, yn ddibynnol ar achosion busnes.
b) Mae’r Rhaglen sy’n datblygu yn dweud ein bod yn dymuno cael digon o leoedd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, ac mae ein Canllawiau diweddaraf yn cyfeirio at flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd yr Achosion Busnes a gyflwynwyd yn cynnwys cyfeiriad at addysg cyfrwng Cymraeg, ac maent wedi cael eu hasesu gan swyddogion sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Pan fo cydweithwyr wedi nodi bod angen gwybodaeth ychwanegol, cyfeiriwyd hyn yn ôl at yr awdurdodau a bydd hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn trafodaethau yn y dyfodol.
c) Mae dogfennau'r Rhaglen Amlinellol Strategol a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf yn dangos bod prosiectau ysgolion eglwysig sydd â rhyw £180 miliwn o werth buddsoddiad cyfalaf yn cynnwys tua 70% o rai Gwirfoddol a Gynorthwyir a 30% o rai Gwirfoddol a Reolir. Yn ôl yr hyn a ddeallwn ar hyn o bryd, yn y rhan fwyaf o'r achosion, mae’r hyn sy’n gyrru buddsoddiad mewn Ysgolion Eglwysig ym Mand B yn seiliedig ar gyflwr ac effeithlonrwydd yr ystad, yn hytrach nag ar bwysau am leoedd ychwanegol.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag awdurdodau esgobaethol mewn perthynas ag ysgolion eglwysig er mwyn deall unrhyw alw pellach am fuddsoddiad yn y sector. Mae’r mecanwaith cyllido a ddefnyddir ar gyfer ysgolion eglwysig wedi cael ei adolygu fel nad yw’r 85% o ddyraniad i ysgolion eglwysig yn rhan o'r 50% o ddyraniad gan awdurdodau. Gobeithio y bydd hyn yn lliniaru'r pwysau ar y sector, sy’n cyflawni eu prosiectau ar y cyd â’r partneriaid o’r awdurdodau.
d) Rydyn ni'n gweithio’n agos â’n holl bartneriaid, a rhan o’r gwaith hwn yw canfod ble gallai pwysau am leoedd ddigwydd. Bydd y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen wrth i Raglen Band B ddatblygu, a thrwy gydol y gwaith o’i chyflawni.
Argymhelliad Chwech
Nid yw rhai o’r adeiladau ysgol newydd sydd wedi’u cwblhau yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar arbed ynni a chynaliadwyedd ar gyfer y rhaglen. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cryfhau ei gwaith gyda chynghorau:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Gorffennaf 2018
a) Mae gwaith wedi cael ei wneud eisoes i fynd i'r afael â’r argymhelliad hwn. Paratowyd Canllawiau Arferion Gorau, a chawsant eu cyflwyno i bartneriaid mewn tri digwyddiad seminar ym mis Mai. Cyfieithwyd y Canllawiau, a byddant yn cael eu porthgadw er mwyn eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd. Paratowyd y Canllawiau gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru mewn ymgynghoriad â'r diwydiant adeiladu. Mae ein Canllawiau Achosion Busnes wedi cael eu diweddaru hefyd, er mwyn adlewyrchu arferion da ac maent wrthi’n cael eu porthgadw er mwyn gallu eu cyhoeddi ar ein gwefan cyn diwedd y flwyddyn.
b) Yn ystod y broses asesu, mae Economegydd yn craffu ar bob achos busnes sy'n dod i law er mwyn sicrhau her gadarn i werth am arian y prosiectau, ac mae hynny’n cynnwys ystyried costio oes gyfan a chanfod gostyngiadau posibl i’r costau o ganlyniad i’w hadeiladu. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’n Heconomegwyr i gynnal tri digwyddiad Hyfforddiant ar yr Achos Economaidd ar gyfer ein partneriaid cyflenwi. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad, a hynny yng Nghaerfyrddin a Llandudno, a chynhelir digwyddiad arall ym Merthyr Tudful ar 11 Rhagfyr.
c) Mae’r adolygiad ôl-feddiannaeth yn cael ei dreialu, a disgwylir ei roi ar waith yn ehangach erbyn Gorffennaf 2018. Mae’r adolygiad yn cynnwys canfod y defnydd a ddisgwylir o ynni, a’r defnydd gwirioneddol o ynni, er mwyn sicrhau bod yr arbedion disgwyliedig yn digwydd.
Argymhelliad Saith
Mae dadansoddiad o gostau prosiectau Band A sydd wedi’u cwblhau yn dangos bod amrywiad arwyddocaol yng nghyfansymiau’r costau a hefyd o ran costau TGCh a gosodion, ffitiadau a chyfarpar. Mae ysgolion newydd wedi mynd 7-10% dros bwynt uchaf y safonau ar gyfer y diwydiant. Mae rhai prosiectau’n defnyddio dull a elwir yn Fodelu Gwybodaeth am Adeiladau yn y cyfnodau dylunio ac adeiladu a dangoswyd bod hyn yn arbed ar amser a chostau yn ogystal â gwella ansawdd. Dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes er mwyn:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Mawrth 2019
a) Daethpwyd i gytundeb â phartneriaid ymysg awdurdodau lleol ar y maint safonol a'r gost ar gyfer ysgolion newydd a fydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru o fewn y Rhaglen. Mae’r safon yn seiliedig ar y meintiau a ragnodir gan BB98 a 99. Mae’r gost fesul metr sgwâr yn cynnwys yr holl waith uwchben y ddaear, ynghyd â'r isadeiledd, y costau dylunio a'r gwaith allanol. Y gost fesul metr sgwâr yw £2,500 (costau 2016). Mae’r gwaith yn cael ei ymestyn er mwyn canfod cost safonol ar gyfer addysg bellach, sydd â mwy o amrywiaeth yn y mathau o adeiladau sydd eu hangen i ddarparu dysgu academaidd a galwedigaethol.
b) Rydyn ni'n cytuno i gynnwys y gofyniad ar gyfer Modelu Gwybodaeth am Adeiladau, a bydd Rhaglen Band B yn cael ei datblygu ar y sail honno. Mae’r sefyllfa’n cael ei hystyried ar lefel Llywodraeth Cymru gyfan, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â hyn cyn gynted ag y bo modd.
c) Rydyn ni wedi darparu canllawiau am y buddsoddiad uchaf i bob disgybl y gellir ei ariannu o'r Rhaglen ar gyfer gosodion, ffitiadau a chyfarpar a TG. Y gyfradd fesul disgybl yw £1,100 ar gyfer gosodion, ffitiadau a chyfarpar, a £500 ar gyfer TG, yn seiliedig ar brisiau 2016. Y rheswm dros gymhwyso’r gost fesul disgybl, yn hytrach na manyleb, yw mai dyma bolisi’r awdurdodau lleol / Sefydliadau Addysg Bellach. Hefyd, gan fod Technoleg Gwybodaeth yn faes sy’n symud yn gyflym, mae’n debygol y byddai canllawiau o'r fath yn dyddio’n sydyn.
Argymhelliad Wyth
Cafwyd tystiolaeth nad yw’r fframweithiau caffael rhanbarthol yn gweithredu fel y bwriadwyd, bod rhywfaint o ddyblygu ac nad yw cynghorau’n mabwysiadu arferion da mewn dulliau caffael. Dylai Llywodraeth Cymru:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Mawrth 2019
a) Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi mabwysiadu safonau gofod a chostau i annog yr arferion gorau gan awdurdodau lleol, ac rydyn ni'n gwella’r gwaith mewn partneriaeth er mwyn cadw'r wybodaeth ar y prosiectau sydd ar y gweill yn gyfoes a cheisio tynnu sylw at brosiectau sydd ar y gweill ar ein gwefan. Rydyn ni'n hapus i annog dull ‘dylunio ac adeiladu’, ond rydyn ni'n cydnabod na fydd hyn yn briodol i bob awdurdod.
b) Ymgysylltwyd â’r diwydiant ym mis Hydref mewn perthynas â’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, gan gyfeirio at y Rhaglen gyfalaf. Ymgysylltir eto ar ôl mapio gofynion cyllidebol buddsoddiad Band B (yn dilyn gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach am eu hamserlenni arfaethedig ar gyfer cyflawni'r prosiectau).
c) Ar ôl ymgysylltu’n ddiweddar, ymddengys fod nifer o resymau pam byddai rhai awdurdodau’n eisiau cynnal ymarferiadau cyn-tendro. Mae'r un mwyaf cyffredin yn digwydd pan ddymunir sypio cynlluniau. Mae’r ymarferiad yn sicrhau nad oes heriau wrth gaffael os penderfynir ar y llwybr hwn. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddeall y gwahanol lwybrau caffael sydd ar gael o fewn y fframweithiau cyfredol, a byddwn yn gweithio gyda’r Fframweithiau i ddeall a oes angen gwneud unrhyw newidiadau er mwyn gallu sypio heb y cam ychwanegol hwn.
d) Byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y fframweithiau caffael yn briodol ar gyfer ein Rhaglen Band B. Bydd hyn yn golygu cael tystiolaeth gan awdurdodau a gan y Fframweithiau cyfredol.
Argymhelliad Naw
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu’n gliriach nag o’r blaen y buddion y mae am eu sicrhau drwy’r rhaglen. Mae wedi sefydlu set o dargedau ar wahân ar gyfer y gadwyn gyflenwi leol, prentisiaethau a hyfforddiant, ac ymgysylltu ag ysgolion ar bynciau STEM.
Mae hefyd yn glir mai un flaenoriaeth ar gyfer y dyfodol fydd cael mwy o ddefnydd o’r adeiladau ysgol gan y gymuned. Er mwyn cael rhagor o fuddion ehangach o fuddsoddi yn y rhaglen, dylai Llywodraeth Cymru:
Ymateb: Derbyn
Dyddiad Cwblhau: Mawrth 2019
a) Rydyn ni’n cytuno y dylai'r targedau barhau’n ymestynnol, a chaiff y rhain eu hadolygu dros amser.
b) Er mwyn hwyluso'r dasg o rannu'r arferion gorau, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnal tair seminar ym mis Mai, a hynny mewn partneriaeth ag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’n partneriaid am nifer o bynciau, gan gynnwys manteision cymunedol. Roedd y seminarau’n gyfle hefyd i rwydweithio a rhannu’r arferion gorau. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo dull cyson, ac mae ein gwefan yn cael ei diweddaru ar gyfer cyhoeddi deunyddiau ychwanegol yn ymwneud â’r arferion gorau a chanllawiau wedi’u diweddaru.
c) Mae cael y gymuned i ddefnyddio mwy ar adeiladau ysgolion yn flaenoriaeth a nodir ym Mand B, gydag Amcan Buddsoddi i wella hyblygrwydd asedau. Mae datganiadau ar gyfer prosiectau Band B yn cael eu datblygu, a byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn goresgyn rhwystrau diwylliannol ac ymarferol rhag defnyddio mwy ar asedau. Gallai hyn gynnwys amrywiaeth o gamau, gan gynnwys dylunio ysgolion i ddarparu mynedfa wahanol ar gyfer y gymuned, a chyflwyno cymalau ‘cymryd yn ôl’ mewn contractau fel bod unrhyw gyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer lle cymunedol yn gallu cael ei gymryd yn ôl os na chaiff ei ddefnyddio ar gyfer hynny.
Gwnaethpwyd gwaith hefyd i ganfod gwaith ehangach gan Lywodraeth Cymru a allai gyfrannu at ddefnydd cymunedol o asedau, a hynny cyn cynlluniau i greu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i fynd i’r afael â’r arferion gorau; symud rhwystrau; a chyllido.
Argymhelliad Deg
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu trefniadau cymorth technegol i'r rhaglen. Mae wedi cynyddu gallu ei dîm ei hun drwy recriwtio arbenigwyr ym maes cyllid cyhoeddus-preifat. Mae hefyd yn sefydlu contractau fframwaith i roi cymorth technegol i gynghorau. O ystyried y newidiadau technegol a wneir i’r rhaglen o dan Fand B dylai Llywodraeth Cymru, ar ddiwedd 2018, adolygu’r trefniadau’n llawn er mwyn:
Ymateb: Derbyn
Cwblhau: Rhagfyr 2018
a) Penodwyd cynghorydd technegol o Awdurdod Lleol Bro Morgannwg i roi cyngor ar ddatblygiad Rhaglen Band B, yn enwedig o ran y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
b) Cynhaliwyd mini-dendr i sicrhau cymorth technegol ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac elfennau cyfalaf y Rhaglen. Methodd yr ymarferiad â sicrhau ymgynghoriaeth i ddarparu cymorth technegol. O ganlyniad i hynny, cynhaliwyd proses OJEU lawn i sicrhau cymorth technegol ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Aeth y contract allan i dendr, ac mae’r cynigion yn cael eu hasesu. Bydd cymorth technegol ar gyfer yr elfen gyfalaf o’r Rhaglen yn cael ei asesu drwy gontractau sy’n bodoli eisoes yn y Fframwaith, a sefydlwyd yn fewnol er mwyn gallu cael mynediad at gymorth technegol. Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu ar ddiwedd 2018 er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben.